Cynllun Iaith Gymraeg Swyddfa’r Post

Mae Cymru’n wlad ddwyieithog, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu defnyddio fel mater o drefn ym mywyd bob dydd ac mewn gweithleoedd. Mae gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ac mae mesurau ar waith i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn bwysig i Swyddfa’r Post ac rydym yn falch iawn o’n rhwydwaith o ganghennau, isbostfeistri a chydweithwyr yng Nghymru. Mae Swyddfa’r Post wedi gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg ers dros 25 mlynedd ac yn yr amser hwnnw, rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddwn, wrth wneud busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

I weld y dudalen hon yn Saesneg, cliciwch yma.

Component Text Accordion
1 Cyflwyniad
  1. Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg (y Cynllun hwn) yn ymwneud â Swyddfa’r Post Cyfyngedig ("ni" ac "ein").
  2. Mae Swyddfa’r Post Cyf yn darparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol i gwsmeriaid personol a busnesau bach trwy rwydwaith o fwy na 11,500 o ganghennau swyddfa’r post. Mae mwyafrif helaeth y canghennau yn cael eu rhedeg gan weithredwyr annibynnol (masnachfraint yn bennaf) a chwmnïau sy’n gyfrifol am eu heiddo busnes ac yn cyflogi eu staff eu hunain. Roedd 117 o ganghennau (4 yng Nghymru) ar ddiwedd mis Mawrth 2023, yn cael eu rhedeg gan Swyddfa’r Post Cyfyngedig yn uniongyrchol.
Darllen mwy
Component Text Accordion
2 Ynglŷn â’r Cynllun hwn
  1. Rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut byddwn yn rhoi’r egwyddor hwnnw ar waith wrth ddarparu gwasanaethau yng Nghymru.
  2. Byddwn yn cadw at y polisïau, ac yn cynnal y safonau a nodir yn y Cynllun hwn, a byddwn yn cynllunio pob gwasanaeth cyhoeddus gan gyfeirio at yr ymrwymiadau wneir yn y Cynllun hwn. Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r fframwaith ar gyfer rheoli a monitro ein cynnydd yn cyflawni’r ymrwymiadau a wneir yn y Cynllun hwn.
  3. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu safon yr un mor uchel o wasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  4. Mae’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun hwn yn gofyn i ni gynnal ein gallu i ymdrin â busnes cyhoeddus yn Gymraeg fel mater o drefn yn unol â’r safonau gofynnol, ac mae’r Cynllun hwn yn cynnwys camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni hyn.
  5. Mae gan y Cynllun hwn gefnogaeth lawn ein Bwrdd.
Darllen mwy
Component Text Accordion
3 Cynnyrch a Gwasanaethau
  1. Mae Swyddfa’r Post yn cynnig dros 170 o gynnyrch gwahanol o ganghennau ledled y DU. Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid a chyflenwyr i gynnig amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau yn cynnwys bancio personol a busnes, post a pharseli, cynilion, cardiau credyd, morgeisi, yswiriant, gwasanaethau teithio, trosglwyddo arian a thalu biliau. Mae Gwasanaethau’r Llywodraeth yn cynnwys y gwasanaeth Passport Check & Send, DVLA a gwasanaethau Hunaniaeth.
  2. Wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ar ein rhan ni neu yn gweithredu fel asiant i sefydliad arall sydd â’i gynllun iaith Gymraeg ei hun, byddwn yn sicrhau ein bod yn cadw at y safonau a’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun hwn. 
Darllen mwy
Component Text Accordion
4 Trafodion dros y cownter
  1. Pan fydd cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael yn ein canghennau, byddwn yn darparu bathodynnau i helpu cwsmeriaid i adnabod staff sy’n gallu eu gwasanaethu yn Gymraeg.
  2. Bydd prosesau cownter yn ein canghennau a Reolir yn Uniongyrchol yn sicrhau y gall cydweithwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg brosesu ffurflenni sydd wedi eu llenwi yn Gymraeg heb oedi.
  3. Byddwn yn sicrhau bod yr holl weithwyr ac asiantiaid yn ein canghennau yn ymwybodol o’r gweithdrefnau ar gyfer cynorthwyo neu roi cyngor i gwsmer sydd yn dewis trafod eu busnes yn Gymraeg.
Darllen mwy
Component Text Accordion
5 Gohebiaeth
  1. Rydym yn croesawu llythyrau a gohebiaeth ysgrifenedig arall am ein gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg. Byddwn yn ateb yn Gymraeg i’r holl ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg.
  2. Byddwn yn defnyddio’r Gymraeg wrth ohebu gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid am newidiadau i gangen Swyddfa’r Post fel rhan o’n Hegwyddorion Ymgysylltu Cymunedol.
Darllen mwy
Component Text Accordion
6 Cyfarfodydd cyhoeddus
  1. Rydym yn croesawu cyfraniadau gan siaradwyr Cymraeg mewn unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb yng Nghymru. Yn amodol ar hysbysu ymlaen llaw, byddwn yn ystyried darparu cyfleusterau cyfieithu, gan ystyried lefel y galw a chynnwys y cyfarfod.
Darllen mwy
Component Text Accordion
7 Ffurflenni a thaflenni
  1. Yng Nghymru, byddwn yn cynhyrchu naill ai fersiynau dwyieithog neu Gymraeg o daflenni cwsmeriaid Swyddfa’r Post Cyfyngedig.
  2. Bydd egwyddor cydraddoldeb dylunio o ran maint, ansawdd, eglurdeb ac amlygrwydd yn berthnasol i’n holl gyhoeddiadau, deunyddiau neu hysbysiadau a gynhyrchir yn Gymraeg. Os oes enw lle mewn testun Cymraeg, defnyddir y ffurf Gymraeg swyddogol. Bydd y gofynion dwyieithog hyn ar gyfer Cymru yn cael eu hymgorffori yn ein canllawiau dylunio.
  3. Wrth ddarparu ffurflenni a thaflenni ar ran trydydd partïon sydd yn destun ymrwymiadau iaith, byddwn yn sicrhau eu bod ar gael yn ddwyieithog yn ein canghennau yng Nghymru.
  4. Gall rhai o’n canghennau yng Nghymru ddarparu ffurflenni a thaflenni ar ran trydydd partïon nad ydynt yn cynhyrchu eu llenyddiaeth yn Gymraeg. Trwy ein gallu fel asiant, byddwn yn defnyddio ein dylanwad i annog cyflwyno ffurflenni a thaflenni dwyieithog lle y bo’n bosibl.
  5. Byddwn yn sicrhau bod gan ein canghennau yng Nghymru, yn amodol ar gyfyngiadau lle, eitemau dwyieithog digonol a’u bod yn cael eu harddangos. Os darperir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddwn yn sicrhau bod niferoedd cyfartal o fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael.
Darllen mwy
Component Text Accordion
8 Arwyddion a hysbysiadau
  1. Byddwn yn arddangos arwyddion dwyieithog y tu allan i’n hadeiladau ein hunain yng Nghymru. Pan fydd asiantiaid yn gweithredu ac yn berchen ar ganghennau yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod gan yr asiantiaid fynediad i borth cyflenwyr cymeradwy i archebu arwyddion dwyieithog pan fydd arwyddion yn cael eu hadnewyddu.
  2. Bydd pob cangen o Swyddfa’r Post yng Nghymru yn arddangos arwyddion dwyieithog yn fewnol.
  3. Bydd egwyddor cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg hefyd yn berthnasol i unrhyw arwyddion newydd neu arwyddion sy’n cael eu hadnewyddu mewn canghennau yng Nghymru. Pan fyddwn yn darparu arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd.
  4. Bydd pob peiriant ATM yr ydym yn berchen arno ac arwyddion electronig mewn canghennau yng Nghymru, yn arddangos arwyddion a gwybodaeth ddwyieithog.
  5. Bydd ein cerbydau Swyddfa’r Post Symudol sydd wedi eu lleoli’n barhaol, neu’n cael eu defnyddio’n bennaf yng Nghymru, yn arddangos arwyddion dwyieithog.
  6. Bydd hysbysiadau gwybodaeth gyhoeddus a gynhyrchir gennym ni a’u harddangos mewn ardaloedd cyhoeddus mewn canghennau yng Nghymru yn ddwyieithog. Os bydd arwyddion Cymraeg yn cael eu cynhyrchu ar wahân, byddwn yn rhoi amlygrwydd cyfartal i fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Darllen mwy
Component Text Accordion
9 Gwefannau
  1. Wrth ailddylunio ein gwefan, byddwn yn ystyried yr egwyddor o drin y ddwy iaith yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal ag unrhyw ganllawiau a safonau a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ymwneud â datblygiad gwefannau.
  2. Byddwn yn arddangos gwybodaeth ddwyieithog am Gynllun yr Iaith Gymraeg ar ein gwefan gorfforaethol 
  3. Mae ein Canolfan Ymgynghori yn gwbl ddwyieithog www.postofficeviews.co.uk.
Darllen mwy
Component Text Accordion
10 Cyhoeddiadau a digwyddiadau
  1. Byddwn fel arfer yn cynhyrchu cyhoeddiadau gwybodaeth cwsmeriaid dwyieithog i’w dosbarthu i gwsmeriaid yng Nghymru.
  2. Pan fyddwn yn cynhyrchu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o gyhoeddiad, byddwn yn cyhoeddi’r ddau fersiwn ar yr un pryd a byddant ar gael yng Nghymru gyda hygyrchedd cyfartal.
Darllen mwy
Component Text Accordion
11 Hysbysebu cynnyrch
  1. Bydd unrhyw ymgyrchoedd hysbysebu y byddwn yn eu cynhyrchu sydd wedi eu hanelu at gwsmeriaid yng Nghymru yn unig yn ddwyieithog neu bydd fersiwn Cymraeg ar gael.
  2. Pan fyddwn yn cynhyrchu deunydd hysbysebu â’r nod o hyrwyddo gwerthu cynnyrch masnachol yn hytrach na darparu gwybodaeth, byddwn yn ystyried ym mhob achos yr angen i gynhyrchu fersiwn dwyieithog neu Gymraeg ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru, gan ystyried maint a natur y gynulleidfa darged, ac ystyriaethau masnachol.
  3. Pan fyddwn yn gwerthu neu’n dosbarthu cynnyrch hyrwyddo neu gynnyrch arall, naill ai ar wahân neu mewn cysylltiad ag unrhyw un o’n gwasanaethau eraill, byddwn yn ystyried ym mhob achos yr angen i gynhyrchu fersiwn dwyieithog neu Gymraeg ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru, gan ystyried maint a natur y gynulleidfa darged, ond gyda rhagdybiaeth o blaid yr egwyddor o gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Pan fydd gan drydydd partïon gontract gyda ni i ddosbarthu neu werthu cynnyrch a/neu wasanaethau ac yn cynhyrchu ymgyrchoedd hyrwyddo ar y cyd yn cynnwys un o’n gwasanaethau, byddwn yn gofyn iddynt roi sylw i’r ystyriaethau hyn.
Darllen mwy
Component Text Accordion
12 Stampiau yng Nghymru
  1. Bydd stampiau Parhaol Cymraeg y Post Brenhinol, yn unigol neu mewn taflenni, ar gael ym mhob cangen yng Nghymru ynghyd â’r cyhoeddiadau “Stampiau Arbennig” fydd ar gael ar y pryd.
Darllen mwy
Component Text Accordion
13 Recriwtio a hyfforddi – gweithwyr Swyddfa’r Post Cyfyngedig
  1. Mewn Canghennau a Reolir yn Uniongyrchol, byddwn yn nodi rolau lle’r ydym yn ystyried bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol. Os bydd gofyniad o’r fath yn berthnasol, caiff ei ddatgan yn ein hysbyseb swydd allanol a’i ymgorffori mewn disgrifiad swydd dwyieithog.
  2. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal a byddwn yn dewis y person sydd fwyaf cymwys i lenwi swydd wag, gan ystyried yr holl ffactorau. Os byddwn wedi datgan bod y gallu i siarad Cymraeg yn gymwys yn ddymunol ar gyfer swydd benodol, ac os, yn ein barn ni, bod ymgeiswyr yr un mor gymwys fel arall, byddwn yn dewis siaradwr Cymraeg.
Darllen mwy
Component Text Accordion
14 Recriwtio a hyfforddi – Asiantiaid a’u gweithwyr
  1. Wrth benodi asiantiaid i weithredu canghennau Swyddfa’r Post yng Nghymru, bydd manylion ein Cynllun Iaith Gymraeg yn cael eu darparu yn ein deunyddiau cynefino. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth i asiantiaid ei hystyried yn ymwneud â recriwtio, arwyddion cangen ac argaeledd gwybodaeth gyhoeddus yn eu cangen. Ategir hyn ymhellach gan gyfathrebiadau cangen rheolaidd i amlygu ymrwymiadau’r Cynllun.
Darllen mwy
Component Text Accordion
15 Gweithredu a monitro’r Cynllun hwn
  1. Mae cadw at y Cynllun hwn yn orfodol ym mhob rhan o Swyddfa’r Post Cyf ac mae gan reolwyr gyfrifoldeb i gyfleu a gweithredu’r Cynllun. Caiff y Cynllun hwn ei gyhoeddi’n fewnol i gynnal ymwybyddiaeth a lle y bo’n briodol, caiff ei gynnwys fel rhan o’r broses gynefino ar gyfer gweithwyr ac asiantiaid.
  2. Bydd cynllunio cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yn ystyried yr angen yng Nghymru am gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg a’r ymrwymiadau a geir yn y Cynllun hwn.
  3. Byddwn yn sicrhau bod y mesurau a’r safonau a nodir yn y Cynllun hwn yn cael eu gweithredu a’u hadolygu’n rheolaidd. Bydd yr ymrwymiadau a wneir yn y Cynllun hwn yn cael eu hymgorffori mewn canllawiau a chyfarwyddiadau busnes priodol a’u cyfleu i’r cydweithwyr a’r asiantiaid perthnasol, ac i gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd ar ein rhan. Gofynnir i asiantiaid sy’n gweithredu canghennau ar ein rhan i gyfathrebu’r mesurau a’r safonau hyn i’w gweithwyr.
  4. Byddwn yn enwebu person uwch sydd â chyfrifoldeb dros bolisi’r iaith Gymraeg. Bydd enw’r person yn hysbys, fel y bo’n briodol, i’r holl weithwyr a’r asiantiaid, yn ogystal ag i’r cyhoedd.
  5. Byddwn yn parhau i adolygu effeithiolrwydd y Cynllun hwn, a byddwn yn ystyried unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r Cynllun hwn er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb ymhellach rhwng y Gymraeg a’r Saesneg mewn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg.
  6. Byddwn yn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ymlaen llaw ynghylch cynigion fydd yn effeithio ar y Cynllun hwn.
  7. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i’r Cynllun hwn heb ymgynghori’n briodol â Chomisiynydd y Gymraeg.
Darllen mwy
Component Text Accordion
16 Pwyntiau cyswllt
  1. Dylai cwsmeriaid sydd ag ymholiad neu gŵyn am un o’n cynnyrch neu wasanaethau fynegi eu pryderon i'r tîm gwasanaeth cwsmeriaid trwy’r dudalen gyswllt - www.corporate.postoffice.co.uk.
Darllen mwy
Sidebar InfoBox

Cymorth a chefnogaeth:
Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu a byddwn yn ateb pob gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg, yn Gymraeg. Gellir anfon Cwynion Cwsmeriaid atom trwy ein sianeli cyswllt arferol:

E-bost:
Customercare@postoffice.co.uk

Trwy fynd i’n gwefan a’n tudalennau cymorth a chefnogaeth:
Post Office - contact us

Trwy ysgrifennu atom yn:
1 Future Walk,
West Bars,
Chesterfield,
S49 1PF.

Sidebar InfoBox

Hwb Ymgynghori Swyddfa’r Post

Mae Hwb Ymgynghori Swyddfa’r Post yn gwbl ddwyieithog. Gallwch ddod o hyd i ymgynghoriadau sydd ar agor ac wedi cau, ymgysylltiadau a hysbysiadau ar newidiadau i rwydwaith Swyddfa’r Post www.postofficeviews.co.uk

Sidebar InfoBox

Sidebar InfoBox

Sidebar InfoBox